Quantcast
Channel: Search Results
Viewing all articles
Browse latest Browse all 16

The Seed Marketing (CMS Wheat Hybrids) (Temporary Experiment) (Wales) Regulations 2024 / Rheoliadau Marchnata Hadau (Hybridiau Gwenith CMS) (Arbrawf Dros Dro) (Cymru) 2024

$
0
0

These Regulations apply in relation to seed produced in Wales under a temporary experiment. The purpose of the temporary experiment is to seek alternative requirements for the certification of CMS wheat hybrids (defined in regulation 2 of these Regulations) falling within the basic or certified category of seed within the meaning of regulation 5 of the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012 (“the 2012 Regulations”), which are more suitable than the requirements currently specified in the 2012 Regulations. Certification is one of the requirements for the marketing of seed under regulation 8 of the 2012 Regulations. The experiment is to run for a period of 7 years beginning with 7 October 2024. Licences granted under regulation 3(3) of these Regulations exempt participants in the experiment from compliance with specified provisions of the 2012 Regulations. These provisions currently effectively prevent the certification of CMS wheat hybrids, as they specify conditions which such hybrids are unable to satisfy. Regulation 21A of the 2012 Regulations permits such experiments where the experiment is organised in accordance with regulations made under section 16(5) of the Plant Varieties and Seeds Act 1964 (“the 1964 Act”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau a gynhyrchir yng Nghymru o dan arbrawf dros dro. Diben yr arbrawf dros dro yw ceisio gofynion eraill ar gyfer ardystio hybridiau gwenith CMS (a ddiffinnir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn) sy’n perthyn i’r categori sylfaenol neu ardystiedig o hadau o fewn ystyr rheoliad 5 o Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”), sy’n fwy addas na’r gofynion a bennir ar hyn o bryd yn Rheoliadau 2012. Ardystio yw un o’r gofynion ar gyfer marchnata hadau o dan reoliad 8 o Reoliadau 2012. Bydd yr arbrawf yn rhedeg am gyfnod o 7 mlynedd gan ddechrau â 7 Hydref 2024. Mae trwyddedau a roddir o dan reoliad 3(3) o’r Rheoliadau hyn yn eithrio’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf rhag cydymffurfio â darpariaethau penodedig yn Rheoliadau 2012. Ar hyn o bryd, mae’r darpariaethau hyn yn atal ardystio hybridiau gwenith CMS, i bob pwrpas, gan eu bod yn pennu amodau na all hybridiau o’r fath eu bodloni. Mae rheoliad 21A o Reoliadau 2012 yn caniatáu arbrofion o’r fath pan drefnir yr arbrawf yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 16(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion a Hadau 1964 (“Deddf 1964”).


Viewing all articles
Browse latest Browse all 16

Trending Articles





<script src="https://jsc.adskeeper.com/r/s/rssing.com.1596347.js" async> </script>